Doran, a Cheiriog wrth odreu'r Berwyn—yr un gwlith cysegredig sydd yn disgyn ar awen y ddau.
Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt:
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megys cynt.
Tra parhao awen y Celt, erys cân ar y bryniau.
Pennod 5.
YN nechreu y flwyddyn 1849, gadawodd Ceiriog gartref ei rieni a gwlad ei serch, er mwyn "dysgu byw" yn Manceinion; ac yno y bu am yn agos i ugain mlynedd. Dyma ddylanwad gwahanol iawn i ddylanwad y Berwyn a dyffryn Ceiriog ac ysbrydoliaeth Huw Morus. Dichon na ddaethai mor hoff o symledd a hudoliaeth Natur, onibai iddo fod mor hir o olwg y bryniau. Nid wrth syllu yn ngwyneb y prydferth y mae y bardd yn breuddwydio ei freuddwydion goreu; ond wrth ddal y prydferth yn ngoleuni dwys-dyner Adgof. Mewn adfyfyrdod y tynai Wordsworth ei ddarluniau rhyfedd o olygfeydd mynydd-lynau Cumbria. A diau i'r un ddeddf reoli dychymyg Ceiriog:
Ffurfafen bell yw mebyd oes—
meddai yn nghân y "Gareg Wen:" ac am ei bod mor bell, yr oedd mor swynol, mor swyngyfareddol. Yn mynwes hiraeth y mae yr Awen wedi breuddwydio lawer gwaith, ac ar wefus hiraeth y clywodd hi gyntaf lawer mabinogi ddyddanus.
Bu aros cyhyd yn ninas Manceinion yn foddion i lydanu profiadau bywyd iddo. Daeth i ganol cymrodoriaeth lenyddol Gymreig. "Yn eu mysg,"