Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

medd Llyfrbryf, "yr oedd Creuddynfab, R. J. Derfel, Pedr Mostyn, Idris Fychan, Parch O. Jones (Meudwy Môn), Mr. J. Francis (Mesuronydd), Gwilym Elen, Tanad, ac eraill." I ddyn ieuanc llengar yr oedd cymdeithion a dysgawdwyr o'r fath yn bobpeth braidd: a phwy all ddweyd ei ddyled iddynt?

Pan gychwynwyd Baner Cymru yn 1857, daeth ef yn fuan i gysylltiad â hi fel gohebydd. Yn hyn o beth, y mae sylwadau Llyfrbryf, mi dybiaf, yn tueddu i fod yn gamarweiniol. Am rai blynyddau ni wnaeth ond gyru ambell gofnod o Fanceinion yn nghylch symudiadau Cymreig. Wrth chwilio ôl-rifynau y Faner ni welsom ei fod wedi cael safle fel "Gohebydd Manchester," yn benodol iddo'i hun, hyd Ionawr 20, 1864.

Am y rhan fwyaf o'r gohebiaethau hyn, cofnodion. ydynt o helyntion Cymreig y ddinas (y "dref," y pryd hwnw). Y mae ambell un ohonynt yn nodweddiadol iawn; fel y dengys y dyfyniad canlynol o hanes cyfarfod llenyddol, a roddir yn y rhifyn am Hydref 13. 1858—cyfarfod yn mha un y chwareuid yr hen delyn Gymreig, ac y darllenwyd Rhiangerdd Fuddugol Llangollen:—

GAN fod y delyn a gweinidogion crefyddol y dref ar yr un esgyn—lawr, crewyd ychydig syndod mewn rhai conglau culion o'r dref. Barnai rhai bodau a breswylient yr heolydd hyny fod y byd crefyddol ar gael ei hyrddio i anfri tragwyddol gan y delyn. Y mae yn dda genyf hysbysu, modd bynag, na chymerodd dim damwain le; ond fe gymodwyd â'r delyn yn lew. Credaf fod yr hen offeryn gwladol i esgyn eto i'w fri cyntefig yn bur a dihalog oddiwrth yr awyr ddrygsawrus yn mha un y chwareuodd ei alawon yn ystod y blynyddoedd diweddaf—ac yr ydym yn hyderu y daw yr oes ddyfodol gyda gwell chwaeth i gyffwrdd ar ei thanau soniarus.

Yn olynol ceir darn o gân a ddarllenwyd i'r delyn yn y cyfarfod, o waith Ceiriog ei hun. Y mae dau