Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyfyniad yn ddigon i ddangos fod Ceiriog yn y gân:

Fel dŵr y nant yn gloewi ei hun
Mewn murmur-gerdd—'run fath mae dyn
Mewn miwsig yn ymburo.
****
Yn sŵn y bagpipe grâs ei nâd
Fe gofia'r Scotchman am ei wlad,
Ei fam, a'i dad, a'i deulu;
Gadewch i'r Nigger fyn'd o'i go',
A dawnsio hefyd os myn o
Wrth ryngu ar ei hoff banjo:
Oes neb mor ddwbwl ddwl na âd
I Gymro hefyd, hoff o'i wlad,
Gael tôn ar delyn Cymru!

Wedi iddo gael ei urddo yn "Ohebydd Manchester," yr oedd ei gofnodion wythnosol, o angenrheidrwydd, yn fwy cyffredinol: ac o gymaint a hyny yn llai nodweddiadol. Yn gyfochrog âg ef yn ystod y blynyddau hyny yr oedd llythyrau Y GOHEBYDD. Ni welodd Cymru erioed ohebydd fel hwnw; ac y mae troi o'i ohebiaethau ef, hyd yn nod i ohebiaethau llenor fel Ceiriog, yn annyoddefol o ddiflas.

Yn wir, colled i Ceiriog fu ei lenyddiaeth newyddiadurol. Prin y gall un llenor droi yn newyddiadurwr (journalist), heb beryglu ei lenoriaeth. Gwaith un yw creu difyrwch undydd, neu ddefnydd siarad am wythnos; ond gwaith y llall yw creu pleser oes —ie, oesau. Priodol i un fod yn ysgafn, yn lleol; i ddilyn helynt y fynud, i siarad iaith gyffredin y dydd rhaid i'r llall fod yn bwysig hyd yn nod yn ei ddifyrwch, rhaid iddo godi uwchlaw helyntion cymydogaeth; rhaid iddo ddilyn helynt anfarwol Amser; rhaid iddo siarad yr iaith sydd yn gynefin i bob oes. Pan y mae y llenor yn cyffwrdd â phethau lleol a therfynol, y mae yn rhoddi iddynt agwedd ddifesur. Ysgrifenodd Milton bamphled ar ryddid y wasg—Areopagitica—ar gyfer ei oes: