Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod 6.

Y MAE y syniad ar led mai Burns a grëodd ganeuon yr Alban: "Ond," medd un o'i edmygwyr mwyaf calonog, "byddai yn llawer nes i'r gwirionedd i ddweyd mai caneuon yr Alban a greasant Burns, ac mai ynddo ef y cyrhaeddasant eu huchelnod. Ganwyd ef ar awr hapus i fardd-gerddor cenedlaethol: tu cefn iddo yr oedd canrifoedd o ganu, ac anadlodd awyr o beroriaeth o'i febyd."[1] Byddai sylw cyffelyb yr un mor wir am Ceiriog. "Hen alawon" ei wlad oeddent yr afonydd gloywon, llyfndeg, lle y cafodd ei ganeuon le i hafaidd-nofio. Heb yr hen alawon byddai amryw o'i ganeuon yn debyg i gychod nwyfus yn gorwedd yn segur ar y glanau, a'u hestyll yn hollti yn ngwres yr haul. Y mae y gwirionedd cyflawn, fel arfer, yn ddyblyg: ar un llaw, i alawon poblogaidd Cymru greu caneuon Ceiriog; ac ar y llaw arall, i ganeuon Ceiriog roddi ail-fywyd i'r hen alawon Cymreig.

I'r neb a adwaenai Ceiriog nid oes eisiau siarad am ei hoffder o gerddoriaeth ei wlad. Yr oedd, fel y sylwa Llew Llwyfo, yn fwy o gerdd-garwr nag o gerddor: gwyddai fwy am "gerddoriaeth natur" a "cherddoriaeth y galon" nag a wyddai am gerddoriaeth fel celfyddyd.[2] Yr oedd ei ysbryd fel telyn fyth-furmurol wedi ei chrogi ar gangau yr ywen uwchben yr oesau gynt, ac awelon araf y cynfyd yn cyffwrdd â'r tanau hyfrydsain foreu a hwyr. Yr oedd o hyd yn "hymio rhyw hen dôn" wrtho ei hun, nes yr oedd wedi deall ei chyfrinach gysegredig. Nid oes un esboniad fel esboniad serch—esboniad y galon gariadus mewn cydymdeimlad pur. Wedi syrthio mewn cariad â'r alaw, wedi ei

  1. Shairp's Aspects of Poetry, 198—'99
  2. Y Geninen, vi. 76.