Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phrudd-dynerwch yr ail am ei dyeithredd, y swn rhamantus, fel adlais hen Fabinogi odidog sydd ynddi; a'r olaf am ei grymusder awenyddol. mae annhraethol boen mewn llinell fel hon—

Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion!

Y mae ei dwysder mor aruthr: pwy all ei chanu? hyd yn nod ar alaw pruddglwyfus "Morfa Rhuddlan?"

Pennod 7.

Y MAE y sylwadau ar gyfaddasder ei eiriau i'r beroriaeth yn ein harwain yn naturiol i wneud dau neu dri o nodiadau yn fwy cyffredinol ar saernïaeth ei ganeuon a'r rhanau eraill o'i farddoniaeth.

Fel cynghaneddwr, yr oedd yn esmwyth yn hytrach na chryf. Yn ei englynion i'r "Daran," er engraipht, esmwythder yn fwy na chryfder y llinellau isod sydd yn ein swyno:—

A Hwnw ddaeth ei hunan
I'n byd du mewn enbyd dân.
I lef Iôn mae elfenau
Nefoedd oll yn ufuddhau.

A phob pig trwy'r goedwig gân
I'r Duw a yrai'r daran.

Gellid yn hawdd ddethol tusw o gwpledau yr un mor hapus o "Gywydd Llanidloes;" ond gwna hyn y tro:

Onid hoff ar ddiwrnod ha',
Adar yn eisteddfoda!
Ac ar hîndeg yn gwrando
Onid hardd gweld 'deryn tô!
Rhyw grwtyn byr o gritig,
Yw ef yn nghyngerdd y wig.
****
Clec o gyffyrddiad y clo,
I'r buandroed ry'r bendro.