Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tewyn gwyn tán y gerdd,
Enyn dy hunan;
A bydd byw yn mhob bwth,
Palas a chaban;
Yn dy rym a dy wrês
Drygfyd ni thrigfan;
Llwm yw'r tŷ lle mae'r tân
Wedi myn'd allan.

Dyna ddawnsio go dda, a'r llinyn mor fyr!

Nid yw y pwnc mor bwysig ag i hawlio rhagor o drafodaeth. Teimlem fod angen cyfeirio at hyn, am fod tuedd mewn barddoniaeth Gymreig ddiweddar i ddiystyru perseinedd wrth ryfela â'r gynghanedd freintiedig. Y mae y Celt mor dueddol o redeg i eithafion, fel y mae eisiau ei adgofio yn barhaus o'r pethau da sydd ar ganol y ffordd.

Y mae Ceiriog wedi llithro ambell waith i'r bai o ddiweddu llinell yn wan:—

Peidiwch a sôn am farw,
Peidiwch a meddwl am'
I ch plentyn fyw—


Ai Esgob Ely, ynte Norfolk sy'n
Ysgyrnygu—ynte Iarll Bohun


Suo mae awelon
Hwyrddydd haf ym mysg
Coedydd.

Aroglai flodeu'r ddaear,
Ond nis adwaenai'r fún
Mo wên yr haul.

Wrth ganu, diau fod brychau distadl o'r fath yn gwneud peth niwed. Ond pan gofiom mai Shakspere yw y pechadur mwyaf mewn diweddebau egwan, gwelir fod ychydig droseddiadau Ceiriog mewn cwmni anrhydeddus.

Fel yr ydys wedi sylwi yn ein nodiadau ar gyfaddasder ei eiriau i'r alawon, yr oedd ganddo fedr neillduol i ddeall teithi mesur. Prin y credwn iddo wneud un camsyniad pwysig ond yn chwareu-