Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gerdd "Syr Rhys ap Tomos." Yr ydym wedi methu yn lân cael na threfn na pheroriaeth o'r mesur di-odl yn yr ail a'r drydedd ran o'r gerdd. Er engraipht—

O Leuad, leuad wen! ychydig ŵyr
Y sawl edrycho ar dy wyneb crwn,
Yn absenoldeb goleuni r haul,
Y golygfeydd amrywiol weli di,
Wrth wylio trosom gyda'th fyrddiwn sêr!
Ti a welaist ornest rhwng tad a thad,
Ac oer-dywynaist ar eu cleddyfau hwy,
Pan gyd-ollyngent ddefnynau gwaed.

Y mae tair o gyhydeddau gwahanol yn y dyfyniad uchod—y draws, y wen, a'r laes. Ac hyd yn nod mewn llinellau gogyhyd, y mae y corfaniad mor anystwyth ac mor wamal, nes na wneir dim ohono yn nhafol y beirdd. Feallai mai cynyg rhywbeth newydd yr oedd y bardd, ac i'r cynyg am unwaith fradychu ei gelfyddyd. Y mae bron bod yn ddeddf yn y byd barddonol i fardd—yn enwedig os bydd yn hyfedr ar fesurau—wneud rhyw gynyg, a methu, fel pe byddai am unwaith yn gorweithio ei dalent, nes ei hanafu. Yn mhlith y beirdd Seisnig diweddar saif Tennyson a Longfellow fel y ddau arwr mydrol y mae amlder a pherseinedd eu mesurau bron yn ddiddiwedd. Ond gwyddant hwythau yn brofiadol beth yw cynyg a methu. Gall yr aden fwyaf grymus hedfan unwaith yn rhy falch.

Feallai mai am fod Ceiriog yn naturiol mor gelfydd, y methodd wrth dreio mesur mor ddi—ffurf. Y mae yr hwn sydd yn arfer ei hun i reolau a ffurfiau yn fwy rhydd ynddynt nag hebddynt y mae ei gadwyn yn dyfod yn rhan o'i gryfder. Y mae Ceiriog yn mhob man yn profi ei hoffder o saerniaeth ddillyn. Nis gwn am un prif—fardd Cym—reig—oddieithr Islwyn, fe ddichon—wedi gwneud cymaint o ddefnydd o'r odl ddwysill, a Cheiriog: