Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Evan Benwan yn Eisteddfod Lerpwl," "Ni bu Marw Un," "Wyres Fach Ned Puw," "Y Tŷ ar y Bont," yn ei chadw yn ofalus o'r dechreu i'r diwedd. Yn mugeileg "Merch y Llyn" hefyd, eithriad yw peidio ei chael.

Hwy gymodwyd, hwy gymodwyd,
Yn niwedd oes;
Ail briodwyd, ail briodwyd—
Dwylaw'n groes!

Mewn mydryddiaeth Seisnig y mae yr odl ddwysill yn anhebgorol, gan mai tuedd yr iaith yw diystyru a rhedeg dros y sill olaf mewn gair amlsill.

Like a poet hidden
In the light of thought,
Singing hymns unbidden

Beth pe darllenid y drydedd linell—Singing hymns of heaven? Byddai yn hollol ddiwerth fel odliad, er fod y sillau terfynol yn odli. Y mae y Gymraeg yn fwy caredig wrth ddiweddu ei geiriau: ac nid oes iddi raid wrth odlau dwysill.