Pennod 8.
GWIN, a Serch, a Chlod—yn ol hen ddywediad barddonol—yw cylch testynau y Gân. Y mae lliw yr Oesau Tywyll ar y dywediad: a diau fod iddo haniad paganaidd. Rhagarwydda sefyllfa gymdeithasol pan oedd dirwest a'r awen yn gwrthod siarad â'u gilydd, pan oedd segurdod yn annghlod i'r cledd. Ond gall athrylith dori gormes hen arfer, pa mor gyndyn bynag y bo; ac y mae athrylith wedi llwyddo i eangu cylch testynol y Gân. Pan ganodd Burns mor ddeheuig am werth pob dyn byw—
A man's a man for a' that.
gwyddai nad oedd yn canu am win, na serch, na chlod. Mewn llythyr at gyfaill o lenor,[1] gwnaeth ymddiheurawd gostyngedig dros yr annghyfreithlondeb hwn, trwy awgrymu "gan nad oedd ar destyn Cân, mai nid Cân ydoedd!" Yr oedd hyny yr un fath a phe byddai i'r môr wneud ymddiheurawd i Gwyddno Garanhir ar ol gorlifo Cantref y. gwaelod, mai nid y diluw oedd hwnw. Y mae "Ochenaid Gwyddno" yn profi ei fod yn ddigon o ddiluw iddo ef! Tra yr oedd y bardd yn esgus gwneud esgusawd, yr oedd swyn a grymusder y gân yn dwyn deddf newydd i mewn i gylch testynau Caneuon. Rhaid i'r bardd ddilyn y byd ambell waith. Ac y mae agweddau cymdeithas wareiddiedig heddyw yn newid swyddogaeth y Gân.
Gwna y tro i ddilyn yr hen ddywediad, ond ei esbonio yn rhyddfrydig, ac ychwanegu ato lle bydd eisiau.
- ↑ The Works of Burns: Letter Ixix.; vol. iii. 134.