Gan hyny dechreuir gyda'r "Gwin "—difyrwch bwyta ac yfed, cwmniaeth lawen, a chwedleuaeth ysmala. Yn ngenau Béranger yr oedd canu i'r gwin yn faswedd difrifol, damniol. Pa haerllugrwydd a aeth erioed tu hwnt i'r ddwy linell gableddus?—
Le verre en main, gaiement je me confie
Au Dieu des bonnes gens!
Dal ei gwpan meddwol yn ei law, i yfed iechyd da ei enaid anfarwol, wrth ei "ysgafn—ymddiried i Dduw pobl dda!"
O'r fath awyr flamllyd afiach, y mae yn ddiangfa i un gael troi i gyfeillach Burns; ac y mae hyny yn dweyd llawer. Y mae y Gwin yn ei gân yntau; a gofidus yw gorfod ychwanegu fod melldith cyfeddach wedi dinystrio ei fywyd. Ond wedi'r cwbl, y mae yn rhyw gysur i gofio mai nid canmol yfed er mwyn yfed y mae. Swyn y cwpan i'w awen oedd y gyfeillach lawen, y difyrwch, a'r arabedd pert o amgylch y cwpan. Gwelir hyn ar unwaith yn ei gân hoffus i'r "hen amser gynt"—Auld Lang Syne—cân sydd yn nghalon yr Albanwr yn mhob cwr o'r byd, yn ei hyfryd adgofio o fwynderau diniwed boreu oes, pan y cerddai yn droednoeth trwy arianlif nant y mynydd, pan redai "lawer troedfedd flinderus ar hyd y llechweddau gan dynu "llygaid y dydd." Nid y cwpan meddwol sydd wedi rhoddi ei eneiniad halogedig i'r gân; ond y gwlith sydd ar y blodeu yn ngwanwyn oes—dyna ydyw ei heneiniad.
Os ydyw yn gwella o Béranger i Burns, y mae yn gwella drachefn o Burns i Ceiriog. Gwir nad yw yntau wedi cadw y gyfeddach yn llwyr o'i ganeuon. Prin, feallai, y gellid disgwyl hyny, pan gofiom deimlad yr urdd farddol Gymreig at ddirwest bum' mlynedd ar hugain yn ol, ac yn ddiwedd-