Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

troi i garu wrth ofyn y cwestiwn ac yn colli yr ateb, y mynach myfyrgar yn myned i ysgrifenu traithawd ac yn cofio am lances—

A llosgodd ei bapyr cyn deall ei bwnc!—

y prydydd yn methu dweyd dim ond

Mai gwlith ydyw cariad, o Eden wen foreu,
Yr hwn gan yr haul ni chymerwyd i'r nef:—

a'r doethawr sychlyd yn cashau y beirdd, ac yn troi i brydyddu ei hun wrth "ffurfio deffiniad dysgedig o gariad!" Dyna ddigrif-chwareu gamsyniadau —ond mai camsyniadau priodol iawn. ydynt.

Y mae ei farddoniaeth Serch yn cyffwrdd â holl gyfnodau'r oes. Nid yw wedi annghofio carwriaeth plant; yn "Syr Rhys ap Tomos," ceir Rhys ac Efa yn edliw yn ddifyr i'w gilydd deimladau mebyd cynar:—

Treuliasom oriau yn ngwres yr haf,
Yn casglu meillion a llygaid dydd;
Crwydrasom ganwaith ar nawniau teg
Hyd fin yr afon.

A phan ddywed Rhys am yr adeg yn ei hanes pan oedd cariad ieuanc ofnus—felus yn peri iddo ei dilyn o fewn lled cae a rhedeg adref rhag ofn iddi ei weled, onid yw ateb Efa yn faleisus o dyner?—

Tydi yn rhedeg rhag fy ngweled i!
A thithau beunydd yn rhedeg ar fy ol,
Gan ddwyn oddiarnaf fy nheganau hof,
Er mwyn it' dranoeth eu dychwelyd hwy!

Dyna garu plant.

Am ddarlun o ddeffroadau mwy difrifol Serch i ba le yr awn ond i riangerdd "Myfanwy Fychan?" Y mae cân Hywel ar y beithynen yn llawn o