Gorchwyl go ddrud yw "dweyd barddoniaeth mor dlws"—o dan yr amgylchiadau; ac nid ydys yn synu dim i ddarllen mai drud a fu hi i Alun Mabon. Wythnosau terfysglyd o obeithio ac ofni, o ganu ac ocheneidio—dyna fu y canlyniad, fel arfer! Pa mor debyg oedd yn ei ymarweddiad i ddarlun Shakespere o'r "carwr cywir," gadewir ni i ddyfalu. Ni ddywedir yn bendant fod "ei foch yn gul," ei lygad yn llwydlas a suddedig," a'i "ysbrydoldeb uwchlaw amheuaeth"; ni sonir chwaith fod ei "hosan yn ddi-ardys," ei "esgid heb un carai," a "phobpeth yn ei gylch yn amlygu annghyfanedd-dra esgeulus."[1] Rhaid cymeryd y pethau hyn yn ganiataol. Digon i ni yw cael gwybod iddo freuddwydio am locust melynddu " yn ymlusgo dros ddail y fedwen; ac iddo gael esboniad chwerw o'r weledigaeth pan aeth cyfaill dichellgar i siarad â Menna drosto ei hun. Eiddigedd, blinder calon, gobeithio yn erbyn gobaith, dyna adnodau dyrys pennod y caru. Ac mor swynol y mae yr awdwr yn cyd-amseru gwanwyn yn y coed â deffroad gobaith newydd yn nghalon Alun—
Eis o dan fy nghoeden fedwen
Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ôl y gyllell
Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion im' ofidio
Na buasai r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ievanc
Yn y toriad hwnw'n byw.
Ac i wneud y cyd—darawiad yn fwy rhamantus fyth, ar ganghen ei fedwen y clywodd Alun aderyn y gwanwyn yn canu gyntaf y tymhor hwnw:—
Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren:
Ac yno 'roedd y gwcw,
Yn canu uwch fy mhen!
- ↑ Ymadroddion cellweirus Rosalind: As you Like it, Act iii., Scene 2.