Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Pan griaf neu pan ganwy',
'Rwyt ti'n dy le bob awr,
Fy hen, hen wraig, Myfanwy.
Oddiar y brif-ffordd gul, gul, at Dduw
Bu pechod yn fy nhynu;
Diolch mae f'enaid dy fod ti yn fyw
I ddal fy mhen i fynu!
Hi—Ni wnaethom ni ddim byd i dd'od,
Fe—(Ai do fe'n awr?)
Hi—O'r trag wyddoldeb fu i Fod,
Fe—(Ai do fe'n awr?)
Y Ddau—Ond ni ill dau fu'n troi y rhod
I fyned ar i lawr.
Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Mae'n werth i'w roi ar goffa,
Nid fan 'roedd gynt yn awr
Y saif hen, hen Glawdd Offa.
O dir y dwyrain i dir y de
Mae'r gwynt yn fwy caredig,
Y Ddau—Nid oes llys, llanerch, na Llan yn un lle
I'r oll yn waharddedig:
Na, gwelwn Gymru yn fwy clyd,
(On'de fe'n awr?)
Yr hen Gymraeg yn fyw o hyd,
(On'de fe'n awr?)
Ac Arthur arall yn ei gryd
Wrth fyned ar i lawr.
Y mae yn y gân gyd-grynhoad dedwydd o'r teimladau dyfnaf a gloywaf yn enaid y bardd. Y mae yr "hen ganeuon" yn cadw byth heb fyned yn hen, a'r "hen Gymraeg yn fyw o hyd." Ac mor felus ar wefus henafgwr yw y syniad ieuanc mai myned yn well y mae'r byd. Anaml iawn y mae yr awen wedi rhodio allan yn nghysgod yr hwyrddydd olaf, ac wedi pellweled y wawr ddyfodol yn gwynu y cymylau porphoraidd o amgylch machlud haul. Dyma Obaith, yn sicr, oedd wedi drachtio o'r ffynonau sydd yn tarddu ar fryniau Duw. Ond mwynach na'r Gobaith yw ireidd-der ei serch at ei "hen, hen wraig, Myfanwy,"—a'r blodeu yn nes i'r nefoedd na'r gwraidd. Yn ol y penill a ddyfynas-