om yn barod, yr oedd yr aelwyd briodasol yn gynes gan y marwor byw pan syrthiodd arni gysgod llaith y bedd.[1] Yr oedd yno "angel yn y tŷ"—yn ei lle bob awr yn dal ei ben i fynu!
Wrth daflu cipdrem gyffredinol dros ei ganeuon Serch, nis gallwn gofio am un profiad carwriaethol wedi ei adael allan. Yn ei gân ar "Garu'r Lleuad " ceir adlewyrchiad o'r hen garu Cymreig (nad yw mor ddianfoes ag y gellid dymuno):—
Mi godais inau'm cariad
Wrth guro brig y tô;
a'r ymddiddan trafferthus, edliw hen gariadau a chusanu,
O amgylch tân o fawn.
Yn "Nedi" Jones, y mae y bardd mewn haner cellwair yn trin y pwnc dyryslyd o ymddibyniaeth Serch ar gyflwr y llogell:—
Oes mwy na theirpunt yn y mis
Yn myn'd i gadw gwraig?
A phrin y mae eisiau ychwanegu i awen frwdfrydig ac mor unochrog benderfynu yn fuddug—oliaethus o blaid Serch—
'Does neb yn gwybod pa sawl punt
Yw teirpunt, lle bo cariad!
Y mae ein bardd wedi cofio am helynt y llythyr caru sydd wedi " tori ei gyhoeddiad," yn ei gân "P'le 'rwyt ti, Marged Morgan?"
Gyra lythyr bach yn union,
Pe bai ond papyr gwyn!
- ↑ Y penill a ddyfynwyd (tud. 266) o chwedl delyneg Coventry Patmore—"The Angel in the House."