Yn "Y Fodrwy Briodasol" (o Eisteddfodol goffadwriaeth) yr adeg a ddewisodd y bardd yw y noson cyn priodi:
Cyn myn'd at yr allor yfory gâd imi
A'th fys ei chysegru wrth fyn'd hyd y ddôl.
Ac yn "Paham mae Dei mor hir yn d'od?" pryder merch ieuanc foreuddydd ei phriodas sydd yn cael ei ddarlunio mor hapus. Yn y modd hwn. y mae y bardd wedi tramwy dros "wlad y traserch mawr," ar ei hyd ac ar ei lled.
Ond y mae Serch arall: ac nid arall ychwaith; ond cangheniad arall o'r un pren gwyrddlas, anfarwol. Hwn yw serch yr aelwyd—serch plant at eu rhieni, a rhieni at eu plant.
Tybed fod unrhyw fardd mewn unrhyw wlad wedi canu mwy am blant na Cheiriog? Y mae wedi plygu ei ben yn bryderus gyda'r fam ieuanc uwchben cryd ei chyntafanedig; y mae wedi canu hwian—gerdd i faban-dywysog; gwnaeth rywbeth er mwyn cadw hwiangerddi Cymru rhag difancoll. Y mae wedi canu mor nwyfus a phlentyn am Lisi Fluelin yn deirblwydd oed:—
Mae'n dda genyf ganfod y plant yn cael diwrnod,
I chwareu'n blithdraphlith yn un a chytûn:
A chadw penblwyddyn Miss Lisi Fluelin,
Er mwyn yr hen amser bûm blentyn fy hun.
Mae Lisi bach yn deirblwydd oed;
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân,
Wrth glywed y gân;
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegyd fod Lisi'n deirblwydd oed.
Nid calon fach all deimlo'r fath fwynhad a'r fath hwyl wrth feddwl am chwareuon y plant. A pha fireinder dihalog sydd yn nodweddu y fath ganeuon a'r Fenyw fach a'r Bibl mawr," neu "Yr Eneth