Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wel sefwch yn hyf gyda'ch Dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd
I godi'r hen wlad yn ei hol!

Rhuthrgyrch byddin gyfan mewn brwydr derfynol sydd yn adseinio trwy farddoniaeth "Corn y Gâd;" ond rhuthriadau sydyn, drylliog, rhyw ysgarmes ragbarotoawl sydd yn tyrddu trwy "Gadlef Morganwg."

Yn ei chwedl-gân athrist—"I Blas Gogerddan" —y mae y bardd wedi rhoddi y mynegiant mwyaf beiddgar i'r ysbryd milwrol. Yn hono y mae serch mam yn cael ei aberthu yn ddi-drugaredd i greulondeb Rhyfel—fel y bu mamau gynt yn gwneuthur i'w plant "fyned trwy y tân i Moloch." Y mae mwy o ysbryd arwyr Scandinavia, a yfent erchyllderau gwaedlyd fel yfed gwin—y mae mwy o ffyrnigrwydd Odin a Sigurd a Gudrun nag sydd o fawrfrydigrwydd Arthur a'i farchogion yn y gân. Swyddogaeth y bardd yw adlewyrchu holl agweddau bywyd: ac fel bardd yn taflu goleu ei lamp ar ddychrynfeydd Rhyfel y gosododd Ceiriog y fam mewn cyfwng mor ofnadwy ag i orfod siarad a dyoddef fel hyn:—

Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It' golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorph y dewr
Na derbyn bachgen llwfr.

****
Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, "O fy mab! fy mab!
O maddeu im', O Dduw!

Ond hawdd canfod mai allan o'i elfen gynhenid yr oedd y bardd yn canu fel hyn. Llawer mwy hoff ganddo yw lliniaru pob echryslonrwydd â rhyw seiniau tyner, dyngarol. Yn nghanol galwadau