cynhyrfus y "Gadlef Gymreig," mor dawel ac mor seinber y daw y penill hwn i fewn:—
Suo mae awelon
Hwyrddydd haf yn mysg
Coedydd gwlad heddychlon
Dyfrdwy, Wy ac Usg;
Adar ddedwydd hunant
Yn eu gwyrddion ddail;—
Mamau hoff gusanant
Feibion heb eu hail!
Nid yw'r bardd yn codi'r llen oddiar yr olygfa. ddilynol, i ddangos y mamau yn cusanu yr un gwefusau yn welw ac yn oer yn eu holaf gwsg! Drachefn, yn ei delyneg i'r "Milwr na Ddychwel," wedi i'r awen hedfan yn wylofus trwy "dymhestloedd magnelau" a thros "ufel raiadrau," clywir hi yn pyncio mor dyner a'r fwyalchen ar Faes Crogen, tra yn gadael i'w hadenydd orphwys uwchben y dyngarwch sydd yn cerdded yn ol troed Rhyfel:—
Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth,
Dy ddewredd, a th fedr milwrol:
Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth,
Fel arwr ar faes Cristionogol.
Ar wefus y milwr dolurus a gwan,
Y gwasget rawnsypiau tosturi:
A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran,
Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.
Esmwythaist y clwyfus â balm oddi fry,
Pan ballai daearol feddygaeth;
A glyn cysgod angau oleuwyd i lu
Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.
****
Pan ddaw y fath adeg—pan na fydd y byd
Yn agor cyfrolau rhyfeloedd:
Coffheir y gwir filwr, a'i enw o hyd
Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.
Nid adsain yw y penillion uchod o deimlad a fu unwaith yn y byd ac sydd heddyw yn estronol: llais y galon ydynt, yn llawn o Gristionogaeth yr