oes bresenol. Apostol heddwch yw y bardd, hyd yn nod ar faes y gelyn: yn gymaint felly nes yw yn galw ar yr hen Filwr dychweledig i wneud esgusawd drosto ei hun am chwareu'r delyn ar ol bod yn ngwasanaeth angau:
I'th erbyn, delyn heddwch,
Pechais i;
Ond eto mewn tawelwch
Wele ni.
Mae llaw a driniodd arfau,
Mae llaw was'naethodd angau,
Yn cyffwrdd gyda'th dànau
Anwyl di:
Os aeth o gôf dy chwarau
Torer hi.
Na, na, er ei chaledu
Gan y cledd,
Daw rhwng y bysedd hyny
Benill hedd.
Yn perthyn yn agos i ganeuon Rhyfel y mae caneuon Hela: ac ni fu dim erioed yn fwy nwyfus nag awen Ceiriog ar yr helfaes. Pa un ai hela'r hydd ("Uchel yw Bloedd yr Helgorn Mwyn"), ai hela'r ysgyfarnog,<ref<Ceir y gân hon gan yr awdwr mewn dwy ffurf (gwêl Oriau'r Haf, 8; a'r Songs of Wales, 60). Nid yw yr ysgyfarnog yn cael ei dal yn y naill na'r llall.</ref> ai hela'r blaidd ("Mae Bleiddiaid yn y Llwyn"), fyddo'r gamp, y mae yr heliwr yn fyw ynddi. Yn yr un dosbarth y mae y gân—" Ar Gefn fy Merlen ddu"—i gael ei gosod. Enw arall yr hen alaw yw "Trot y Gaseg;" ac y mae penill fel hwn yn trotian ohono ei hun:
Mae miwsig hen alawon
Yn sŵn dy bedwar troed:
'Rwy'n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra'r afon ar y graian,
Yn hwian iddi 'hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynu uwch y tŷ,