ymdaith yn mlaen, yn mlaen, ar hyd "llwybrau seingar cyfnewidiad "—
Better fifty years of Europe than a cycle of Cathay;—
ac mewn hyawdledd gorchfygol gweddiodd ar ei Oes, ei Fam-Oes:—
Rift the hills, and roll the waters, flash the lightnings, weigh the sun!
Dyna yni, a diwylliant, a gobaith, ac ysbryd yr Oes. Ond pa sawl un o'i gyfoesolion sydd wedi ei ddilyn? Nis gwn am un bardd o fri. A gwaeth na'r oll, y mae yntau, ysywaeth, wedi tynu ei eiriau tanbeidiol yn ol yn yr ail ran o'r bryddest, a gyhoeddodd yn ddiweddar—Locksley Hall: Fifty Years After. Y mae haner canrif wedi gwneud ei ddychymyg yn llesg; ac y mae rhyw bruddglwyfedd anobeithiol, fel cysgod oerllyd "yr ywen ddu ganghenog," yn tywyllu yr ail gân yn ddwfn, ddwfn.
Y mae yr awen Gymreig yn meddu'r gyneddf werthfawr o allu cyfaddasu ei hun i newydd—deb y byd. Nid yw cyfnewidiadau a gorchestion y bed—waredd ganrif ar bymtheg yn rhy aruthr iddi. Y mae wedi canu am yr Ager a'r Trydan, am y ceffyl tân a'r pellebyr. Y mae Dewi Wyn o Eifion wedi gwneud barddoniaeth ar y bont dros y Fenai. Ni ysgrifenodd Emrys ddim yn fwy hapus na'i englyn—ion i'r Gwefrhysbysai." Rhoddodd Hiraethog le amlwg a pharchus i ddamcaniaethau daeareg yn ei Emmanuel; ac ni chauodd ei ddrws yn erbyn y Gomed," ar ei hymdaith wyllt, ryfygus."
Yr ydym wedi gweled i Ceiriog wrthryfela yn erbyn Rhyfel. Canodd hefyd yn hyawdl am Gymanfa Masnach Rydd." Beth feddyliai prif-fardd Seisnig am farddoni i beth mor anfarddonol "so very modern, you know!"—a'r Trên? Ond dyma un o gaueuon hoywaf a mwyaf hwyliog