dyweder, wedi i ddynion gael adenydd awyrol—dihuna rhyw awenydd hwyrdrwm i arwyrain "Brenin y Ffyrdd;" a dichon y bydd yn ei ddarlunio mor fanwl ac mor barchus ag y darluniodd Virgil y ceffyl pren a ddygwyd i mewn yn ddinystr i Gaerdroia—ceffyl oedd "ar gyffelybiaeth mynydd," ei ochrau wedi eu plethu â ffynidwydd, ac "ogofeydd enfawr" o'r tu fewn iddo, yn llawn o ddynion arfog. Y pryd hwnw y bydd cân Ceiriog yn destyn efrydiaeth yn y prif-ysgolion y maent heddyw yn pendrymu uwchben degau o bethau gwaelach, ond eu bod yn henach!
Pennod 11.
YN mysg caneuon goreu Ceiriog y mae hanesion a chwedlau wedi eu troi ar gân. Y mae "caneuon gwerin"—volkslieder—wedi eu hesgeuluso gan feirdd Cymreig hen a diweddar. Y mae hyn yn fwy rhyfedd pan gofier mai caneuon gwerin yw cyfoeth llenyddiaeth Llydaw; ac nad oes dim yn fwy swynol mewn llenyddiaeth chwedlonol Seisnig na Border Ballads yr Alban—cynyrchion diamheuol athrylith y Celt. Y mae ein Mabinogion, beth bynag, yn gwneud i fynu y golled yn anrhydeddus.
O bob caneuon, yr hanesiol a'r chwedlonol sydd yn goddef leiaf o'u llwytho â darluniau ac adfyfyrion. Yr hanes yw y farddoniaeth; ac y mae cuddio yr hanes âg addurniadau yn drosedd llenyddol. "Prif fai y darlun," meddai beirniad mewn celf wrth adolygu Andromache Syr F. Leighton, yw fod yma y fath nifer o frawddegau tlysion. Mewn celf, y mae yn bosibl cael gormod o beth da; ac y mae Andromache yn colli, trwy fod y dyddor-