Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deb ar wasgar, beth o'r swyn a'r cryfder cyffrous sydd mewn darluniau mwy pendant." Gellid troi y sylwadau hyn i ddangos anhebgorion y Gân Chwedlonol:—bai ynddi yw gormod o "frawddegau tlysion" i wasgaru dyddordeb yr hanes; ei chryfder yw siarad yn syml, a cherdded yn hoenus heb droi ar y dde nac ar yr aswy.

Cymerer, o ganeuon chwedlonol Ceiriog, yr "Eneth Ddall" yn engraipht. Y mae yr addurn mor syml ac mor swynol a "llygaid y dydd;" ac y mae y feddyliaeth yn esmwyth ac adfywiol, fel arogl blodeu ar ol cawod yn yr hwyr. Y mae yr ychydig gynghanedd sydd ynddi—

Mo wên yr haul, a mwy na'r oll
Mo wên ei mam ei hun—

mor rhwydd ag anadlu. Beth allai fod yn fwy dirodres as yn fwy tyner na hyn:

Siaradai'r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli',
Ac am y blodeu tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi!

****
Mae'r plentyn wedi marw,—
Ar wely angau prudd,
Fe wênodd ar ei mam, gan ddweyd,
"Mi welaf doriad dydd!"

Y mae rhai o'r Caneuon yn y dosbarth yn cael eu cydnabod fel baledau ar unwaith. Balad yw "Y Telyniwr Dall" a "Llef o'r Tlotty," "Owen Glyndwr a Syr Laurence Berkrolles," "Y Ddafad Benllwyd "—ac, o ran hyny, amryw o ymfflamychiadau Syr Meurig. Prin y mae un ohonynt, fel balad, mor hapus a phethau goreu Jones, Glanygors —prif faledwr Cymru. Nid bardd mawr, o angenrheidrwydd, all ysgrifenu balad lwyddianus. Prin y mae un cyfansoddiad yn gofyn cyn lleied o ymwybyddiaeth lenorol. Wrth ganu balad dylai y