Pennod 12.
Y MAE athrylith Ceiriog wedi rhoddi i'r Rhiangerdd[1] gymeriad a safle arbenig mewn llenyddiaeth Gym—reig. Y mae yr enw yn henafol: gellid meddwl ei fod mor hen a Chynddelw Brydydd Mawr, os nad yn henach; gan mai titl un o ganeuon goreu y bardd hwnw ydyw "Rieingert Euq [Efa] verch Vadawc, m. Maredut." Ond y mae Rhiangerdd y ganrif bresenol yn newydd—beth llenyddol, o'i chymharu â Rhiangerdd y ddeuddegfed ganrif. Nid oes dim o'r elfen chwareyddol yn y rhiangerdd henafol; tra mai drama in monologue yw rhiangerdd gynefin yr oes hon.
Dedwydd fu croesaw y Rhiangerdd yn ei hymddangosiad diweddar Y mae ei symudiadau bywiog, ysgafndroed; ei chynllun syml a diym—drech; a'r lle a roddir ynddi i swyn ac agosrwydd Anian—oll yn ei chyfaddasu i deithi yr Awen Gymreig. Nid yw y bardd brodorol hyd yn hyn. wedi dysgu gwneud chwareugerdd yn wir, nid yw yn meddu y dyfalbarhad meddyliol sydd anhebgor i'r fath orchwyl. Ond y mae y rhiangerdd yn nes ato; ac y mae ei symlrwydd yn cydymddwyn yn well â'i fywiogrwydd telynegol.
"Drama in monologue," meddem. Ac eto rhaid nodi y diffyg yn hyn o beth. Buasai Ceiriog a'i gydfeirdd rhiangerddol wedi gwneuthur yn well pe wedi cadw o'u blaen safonau clasurol. Os ffurf chwarëyddol ddewisir i riangerdd, cadwer y ffurf yn lân ac yn gryno: na ddangosed y bardd ei hun, ond gadawed i'r dramatis person esbonio eu hunain a'u hanes o'r dechreu i'r diwedd. Dylai fod rhywbeth annghyffredin i beri i'r bardd wthio ei hun i wyneb y darllenydd, pan y mae yn bwr-