pasol wedi dewis goruchwylwyr ar genadaeth ei awen. Y mae yn gofyn mwy o gelfyddyd i'r bardd guddio ei hun, ond y mae yr effaith hyfryd yn werth y gelfyddyd. Pe dilynid yr athrawiaeth hon, cadwai y bardd ei hun rhag amryfusedd arall ag y mae Ceiriog wedi syrthio iddo—sef cerdded i bob man er mwyn casglu pethau pert, heb gofio fod y fath grwydriadau yn datod unoliaeth y gerdd, ac yn gwanhau egni ei dadblygiant. Er mor ddifyr ydyw son am "deulu Trevor bob yr un" yn dyfod i edrych ar Myfanwy yn faban yn ei chryd, a'r ddadl fywiog fu yno i ba ochr o'r teulu yr oedd "ei gwyneb crwn," ei "gên fach gron," a'i "thrwyn bach main," yn perthyn: er mor ddifyr yw yr helynt, nid yw yn dal y cysylltiad lleiaf â charwriaeth Myfanwy a Hywel. Y mae llusgo yr ystori fel hyn ar draws llwyn a pherth yn sicr o anafu ei dillynder llenyddol. Mewn gwirionedd, nid yw rhiangerdd "Myfanwy Fychan" yn dechreu nes cyrhaedd y llinellau—
Gylch Dinas Brân y dyddiau gynt
'Roedd derw mawr yn lleddfu'r gwynt.
Onid yw hwn yn ddechreuad mwy bywiog, mwy cyffrous, mwy urddasol, na'r rhagymadrodd a rodd—wyd i mewn gan yr awdwr? Y mae y rhagymadrodd yn bert a difyrus;—nid ydys am dynu dim oddiwrth ei werth fel barddoniaeth. Ond nid oes mo'i eisiau: ac un gamp i'r llenor yw dysgu pa beth i adael allan. Y mae rhagymadrodd bychan, dedwydd, fel yn rhiangerdd "Catrin Tudur," yn llawer mwy dymunol; ac yn ateb yn well i safonau goreu llenyddiaeth.
I'r ystyriol, credaf na bydd y sylwadau hyn yn edrych yn orfeirniadol. Rhaid cofio fod Ceiriog wedi agor llwybr newydd gyda'i riangerddi: yr