Yn ei ail adroddiadau ohono ei hun y daw hyn i'r golwg. Y mae yn dechreu "Myfanwy Fychan" a "Syr Rhys ap Tomos" yn ymyl y cryd; ac fel y bu "caru plant" rhwng Rhys ac Efa, y bu Alun a Menna yn dechreu edrych ar eu gilydd yn lled gynar. Arthur, "fel rhyw angel bychan," fu yn gwneud cymod rhwng Alun a Menna: a'r plant fu yn ychwanegu pennod newydd at hen draddodiad "Merch y Llyn," trwy enill eu tad a'u mam yn ol at eu gilydd. Y mae breuddwyd bron bod yn un o'r cymeriadau yn "Myfanwy Fychan," yn "Alun Mabon," ac yn "Nghatrin Tudur." A oedd yn credu mewn breuddwydion? Nid oes eisiau gofyn a oedd yn credu yn y plant.
Pennod 13.
ANSAWDD ragorol ar athrylith Ceiriog yw lledneisrwydd teimlad. Y mae yn ofalus, fel rheol, i beidio gorweithio y poenus, y prudd, a'r ofnadwy. Nid yw yr awen Gymreig mor ddifeius yn hyn ag y gellid ddymuno: yn wir, tueddir ni i feddwl ei fod yn wendid cynhenid i athrylith y Celt. Ai aml orthrech, a dyoddefaint, a chyflafan sydd wedi ei wneud yn rhy gynefin â'r brawychus? Ei duedd—fryd naturiol yw hoffi yr hyfryd, y disglair, a'r llon; ond fod rhyw ddylanwad o'r tu allan wedi gweithio elfen arall, annghydnaws, i fewn i'w natur, nes yw bellach yn wendid cynhenid.
Swyddogaeth y bardd yw creu cydymdeimlad â thrueni bywyd. Rhaid iddo wneud gofid yn swynol. Ond pan yw yn tynu y llen yn ol yn rhy eofn oddiar wyneb gwelw gofid, y mae y prydferthwch trist yn cael niwed a cham. Y mae darnau o