dyna ail gynyg arni: ond ddaliwyd mo honi! Dyna gamp y bardd yn gadael tynged y fach yn anmhenderfynol:—
Dyna hi yn rhydd i'r mynydd,
Heibio'r cŵn a thros y clawdd!
Yn lle fod y teimlad hwn yn gwanhau wrth adael rhandir "y galon ifanc," ymddengys ei fod yn cryfhau. Y mae lliw gwynaf gobaith ar yr Oriau Olaf —fel llewyrch hawddgar dydd hafaidd ar goed a meusydd Hydref. Yn y gân fechan, ddillyn, Gwraig y Llong a Merch y Fellten," ofnus a phruddaidd yw y darlun yn y penill cyntaf:—
Er pan aeth ar ei daith
Aeth deufis yn bedwar, a phedwar yn saith;
Mae'r lloer ar fy wyneb yn edrych yn brudd,
A'r gwynt swnia'n euog wrth basio fy nôr,
Fel pe baent yn gwybod, ac ofn arnynt ddweyd
Fod fy ngŵr yn y nefoedd a'i long ar y môr!
Ond y rhagolygfa, yn y darlun, sydd wedi ei lliwio yn dywyll, er mwyn dyfnhau y dyddordeb yn ymddangosiad "meich fach y Fellten" gyda'r llythyr trydanol:—
Mae'm llong wedi suddo, ond byw ydwyf fi—
Disgwylia fi adref rhwng haner ac un.'
Pruddglwyfus hefyd yw agoriad ei gân dyner ar "Goed yr Hydref." Tueddir ni i ddweyd am farddoniaeth y gân, fel y dywed ef am y coed:—
O mor brydferth! O mor brudd!
Nid nant y mynydd yn llifo'n loyw—nid cân y gwcw newydd groesi'r môr—nid rhwysgfawr swn y gwynt yn y derw mawr gylch Dinas Brân—nid lliw y sanctaidd wawr yn goleuo creigiau Berwyn—nid prydferthion ieuainc natur sydd yn cael llwyrfryd ei awen bellach. Ond y mae difrifwch a llesg-