chwerthin. Yr hen geffyl ffyddlon, diniwed! pwy all ei feio os oedd yn meddwl dipyn yn gythryblus am y soeg,
Tra'i feistar ar ei gyfrwy
Yn dwfn astudio Groeg?—
pwy na theimla dros ei galedi yn gorfod gwneud ei gartref lawer noson mewn tai lled annghyfanedd ac mewn cwmni digon anmharchus? pwy na edmyga ei ffyddlondeb hunanymwadol?—
Rhag tori cyhoeddiadau.
Fe dorodd ef ei hun!—
ac os oedd ei wybodaeth o'r Seisnig dipyn yn gul, pa Ddic-Sion-Dafydd sydd mor galon—galed ag edrych yn waeth arno am hyny?—
Nis gwyddai air a Seisneg,
Oddigerth Heit a Ho:
Ond ŵyr o ddim, mae'r clawdd yn dyst,
Am Heit na Ho ddim mwy na llo,
Ar ol i Angau yn ei glust
Ddweyd "Jee—Comhoder Wo!"
Chwerthin, neu beth? Nis gwn i. Bu farw heb neb yn agos i dosturio wrtho—
Ei ffarier ef yn angau
Oedd coeden ar y clawdd.
Ac y mae y bardd wedi cario ein cydymdeimlad yn ddigon pell—er gwaethaf ei ddigrifwch—i ni feddwl am rywbeth mwy na difyrwch yn y ddwy linell:—
Cyrhaeddodd ben ei daith, ac aeth
Lle'r aiff ceffylau da!
Y mae tiriondeb at fudaniaid direswm Natur yn llinell wen yn marddoniaeth y Celt. Y mae yn llareiddio dychymygiaeth serenog y Mabinogion; y mae mor amlwg yn nghywyddau serch Dafydd