Ar fawn dolydd Ceiriog mae 'm pen
A'm traed a gyrhaeddant Lanarmon;
Ac un o bob ochr im' mae
Moel Sarffle, a Phen Ceryg Gwynion!
Petruso fel yna 'rwyf fi
Pwy ydwyf, beth ydwyf yr awrhon?—
Pa un wyf, ai Ceiriog y bardd,
Ai ynte yr hen Geiriog afon?
Eto, mewn darluniad o allu tybiedig serch:—
Draw yn Ffrainc mae'r ferch wy'n garu—
Pe bai'r môr yn sychu 'fynu:
Mi a foriwn fel aderyn,
Yn ddirwystr, trwy yr awyr, draw at rywun.
Beth pe bai hi yn y lleuad
Fel y Dyn sydd yno'n wastad?
Ni chai cariad byth ei guro
Mynwn ddefnydd rhyw adenydd i fyn'd yno.
Y mae y syniadau uchod mor eithafol o afresymol, nes bod bron yn rhesymol: felly y mae eithafion yn cyfarfod. Derbynir hwynt fel afresymoldeb yn ceisio siarad yn naturiol: a difyrir ni gan y gwrthuni.
Ond offeryn peryglus i'w ddefnyddio yw y gwrthun—the grotesque. Y mae mor ddilun, mor wamal, mor annghymesur, nes yw yr hwn a'i harfera mewn perygl parhaus o warthruddo ei hun; neu, o'r hyn lleiaf, wneud ei hunan yn wawd. Fan gofir fod etifeddion athrylith—fel Shakspere a Victor Hugo—wedi eu hanafu a'u gwanychu wrth ei arfer, nid oes eisiau tystiolaeth arall i enbydrwydd llenyddol y gwrthun.
Nid yw Ceiriog chwaith wedi dianc yn groeniach. A ydyw "Eisteddfod Fawr Genedlaethol Cyrn y Bwch, 1865," yn llenyddiaeth? Os ydyw, y mae yn rhaid i feirniadaeth roddi ei gweinidogaeth i fynu. Ond credaf na ddewisai Ceiriog i ni edrych ar y fath gynyrchion ond fel "creadau undydd."