bywyd bras—am anwybodaeth gwirfoddol Tom o gyfiawnder a gonestrwydd:—
Ni wyddai ef am ddeddfau'r nef
Na deddfau'r greadigaeth,
Ac nid oedd chwaith yn hidio dim
Am ddod o'i anwybodaeth.
Y mae yn hollol nodweddiadol o'i diriondeb dynol i droi cyn y diwedd i dosturio wrth ei arwr, a gwneud dyn newydd ohono; ac mor nodweddiadol a hyny i ddwyn llais y plentyn i ymyl y bedd:—
Aeth at y bedd a d'wedodd "Mam,
Mae tada genym eto!
Cyfodwch mam, mae nhad yn ol,
A ninau wrth eich beddrod:"—
a pha le mae'r watwareg?
Pennod 16.
Y MAE gan Ceiriog ddosbarth o ganeuon ydynt yn profi fod gan y bardd ddarfelydd hedegog ac eofn. O'r fath hyn ydyw "Amser yn Enwi ei Blant," "Cyfoedion Cofadwy," "Cymanfa Masnach Rydd," a'r cyffelyb. Y mae awenyddiaeth y cerddi hyn mor wlithog ac mor beraidd nes peri i ni ofidio na fyddai y bardd wedi canu yn amlach ar y tant hwn. "Breuddwydion y bardd ydynt:" os creffir, gwelir ei fod yn dra hoff o freuddwydion—breuddwydion cwsg ac effro. Yn ei riangerdd gyntaf ceir Myfanwy yn breuddwydio; ac yn ei riangerdd olaf y mae ganddo ddernyn tlws ar freuddwydion—yr hwn sydd wedi ei ddyfynu gan Llyfrbryf.
Gormod o rialtwch sydd yn ei ddychymyg am "Amser yn Enwi ei Blant." Dylai yr arabedd gerdded yn fwy gweddaidd, yn lle bod fel plentyn