direidus yn rhedeg ar ol iâr fach yr haf. Am syniadau geirdarddiadol y gân—gwell eu gadael heb un gair, gan mai cellwair yn ddiau yr oedd y bardd.
A'r olaf o'r deuddeg
A enwyd ar antur;
I'r flwyddyn ddilynol
Efe oedd y Rhagfur!
"Ar antur"—bid sicr: ac "ar antur" yr oedd Ceiriog yn cynyg y fath esboniadau doniol.
Y mae breuddwyd Masnach Rydd yn dwyn agwedd arall, fwy trefnus. Hapus iawn yw y syniad am "hen lestri mawr Trafalgar" yn sefyll ar y blaen i longau'r byd, fel arwydd fod rhyfel wedi darfod. A dyma ddychymyg pert:—
Ar hyn mi welwn gastell
Yn codi yn y dŵr!
A Nefydd Fawr Naf Neifion
Oedd ar ei uchaf dŵr.
Ymgrymai'r haul i wrando,
Ar lleuad syllai' lawr:—
Hawddamor, longau'r moroedd,
Ysgydwch ddwylaw'n awr.
Ac y mae y terfyniad trallodus—" O Dduw, ai breuddwyd oedd!"—yn dweyd y cwbl oedd i'w ddweyd:—
Y lleuad giliodd ymaith,
A gwelwn wawr y dydd:
Ond nid oedd y llongau ar ganol y môr,
Ac nid oedd Masnach Rydd!
O ran hoenusrwydd y darfelydd saif "Glan Alun" a'r "Cyfoedion Cofadwy" yn uwchaf oll. Ni fu nemawr ddarlunydd barddonol yn fwy medrus gyda'i "gysgodion a'i lewyrchion" na Cheiriog yn y ddwy gân uchod. Mor ddirodres yr egyr y gân gyntaf: prin y mae ynddi awgrym o'r golled a'r gofid mawr. Y mae Glan Alun mor