Seinia eu trydar yn sŵn toradwy,
Yn eu hynt rymus o'r nen yn tramwy;
Uwch certh dwrf rhyferthwy;—y rhai byw ânt
I achre, neidiant yn ddychrynadwy.
Archangel uchel ei achau—ddyry
Floedd aruthr o'i enau,
Uwch càn mil o daranau,—ryw süad
Egwan i'w alwad f'ai twrf magnelau.
"Codwch o oer lwch i'r làn—chwai deuwch
"Y diwedd sydd weithian;
"Chwi oll neidiwch allan—i eglurdeb
"Cynadledd cofeb cenedloedd cyfa'n."
Dydd angerdd ei ddigter ddaeth—yn rymus
Ag yspaid wgus ei gospedigaeth;
Cyd rhwng y cyfwng blin caeth—er dangos
Ysgariad agos y greadigaeth.
Achrwym natur gan ddychryn—Duw o'r nef
I'n daear ni ddisgyn;
Amneidia, y munudyn
Uthr, ei chroth rua a chryn.
A'i fywiog lef geilw ar—y didduw,
Udgorn ein Duw a gryna ein daear,
Ni chymarir rhoch mor-ryd
A gofref bànllef drwy'r byd;
E ddeil ei gorn, a'i ddolef
Yn uwch, uwch, fynycha ef.
Uwch byd gynulliad rhuthrwyllt raiadrau,
Tery i fewnol barth y trofanau,
Berwa lifeiriant yn boerawl furiau,
O gorddi yn agwrdd ei wanegau,
Hyllt yn agenog chwyddog lechweddau,
A'i anwar gynwrf yn yr eigionau;
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/16
Prawfddarllenwyd y dudalen hon