Y peryglus, fradwrus frodoriaid,
Cyffroa oror boeth y Caffrariaid,
A Phalestin, hen wlad y Philistiaid,
Dihuna ni Brydeiniaid—a dychwel
O lwyr hun dawel lu yr Hindŵaid.
Asia cyrff wrth lais y corn,
A bywyd o fewn pob darn,
I'r fintai a brofant orn,
Mawr ei bwys fydd tymor barn.
Gwibiant, edrychant yn drist,
Methu ffoi cyffroi ar ffrwst,
Cydwybod yn dod yn dyst,
A'i chriau dwfn chwerw dost!
"Hyd yma'r ydym er wedi—ein llawn "
Allanol GYFODI;
"Gwae in' erioed ein geni;
"Heb Dduw 'n ol y byddwn ni."
Adda ac Efa gyfyd,
A lleng eu hil oll y'nghyd;
Eu meibion yn ymwibiaw
Fel ôd red ar y foel draw.
ADGYFODI 'n fyddin fawr
O dalaeth lòm y dulawr!
Fyw ryfedd dorf afrifed !
Ryw lu fu 'n wahan ar led,
Rhifedi mân—wlaw cawod,
Neu y mân raian a'r ôd:
Pe 'n ceisio 'u rhifo ar hynt,
Dywedwn—gormod ydynt;
O'u rhoi 'n eu trefn ar un tro,
Rhyfyg dechreu eu rhifo,
Ac afraid yw eu cyfrif,
Yr Ior ei hun ŵyr eu rhif.
Am le, hwy fel yr amlhânt
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/18
Prawfddarllenwyd y dudalen hon