I awyr dygir hwy 'n waredigol,
I gwrdd ei iesin olwg urddasol,
Yno eu hunir yn anwahanol;
Heb un gwan, egwan yn ol—ac heb fai,
Iddynt e brynai eu haeddiant breiniol.
Y rhai yn Iesu a wir hunasant,
Gyd ag Ef wed'yn gwiw adgyfodant;
Hwynthwy o'i foddio, hoen etifeddant,
Eu traed a ymrydd mewn t'rawiad amrant,
Dianaf godi 'n gyntaf gânt—heb ludd
Foreu diorchudd i'w nwyfre dyrchant:
Yr annuwiolion druain a welwant,
A chyn eu dàl yn eu hochain delwant;
Rhai yn amlwg i'w golwg a welant
Y grasol Iesu a groeshoeliasant,
A chewri anwir ddychrynant—rho'nt floedd
Ar y mynyddoedd mewn cri am noddiant.
Wele drymion argoelion awr galed,
Yr annuwiolion yn crynu ei weled;
Erfai noddfa idd y rhai fo'n addfed
I fyw'n ei gôl mewn diangol dynged;
Daeargryn ni sigla 'u dirgred—yn fflwch
Ant oll i'w heddwch o haint a lludded.
Dyma y cyfnod i ADGYFODI
Eorth arwyr yr Oen a'r merthyri,
Acw a rwygwyd yn nghyda'u crogi,
Y llu a'u hesgyrn a roed i'w llosgi,
Eu llwch a fwriwyd i'r lli' ;—heb obaith
O sêl y ddylaith eu sylweddoli.
Na e fydd Barnydd y byd
O feirw i'w hadferyd,
A dwg hwynt i'w wiwdeg gaer,
Ar ei garbwncl glaer gerbyd.
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/20
Prawfddarllenwyd y dudalen hon