Heb a wnaed un bai yn ol
I fynag y farn fanol.
Try amlen ddu y trymlwyth
Dynai farn ar Eden fwyth;
E draidd ei olygon draw,
A'i ddeulyfr yn ei ddwylaw.
Adnabod wna 'r godinebwyr,—a phawb
Fu 'n ffordd y troseddwyr;
Cywilyddia celwyddwyr,
A thoa gwarth euog wyr.
Pyga wyneb Paganiaeth,—y gwrthun
Ddiles gynllun oedd eulun—addoliaeth.
Ei feibion heb brofion braw,
Hwy elwir i'r ddeheulaw;
Noda 'r Ynad aur enau
Eu gwobr hwynt a gâ barhau :
Y rhai anwir hyrddir hwy
I le isel ei aswy;
Nid erbyd hwy 'n eu dirboen,
I gasglu parddu mewn poen.
Sefyll wna i wersyll wrth ei orsedd—wén
Yn ngwyneb gwirionedd;
I'w feirw myn ei fawredd
Ro'i barn iawn, a'r byw 'r un wedd.
Pob un arno 'i hun heb wahaniaeth—gâ 'i
Gywir daledigaeth;
O'r un deg farnedigaeth,
Rhan yn ol yr hyn a wnaeth.
Ar y naill ochr neu y llall,
Gwyddorion a gwedd arall:
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/23
Prawfddarllenwyd y dudalen hon