Pob bryn i annoddyn naid—yn llamol
O flaen y dwyfol Ior fel ŵyn defaid;
Siglant pan godant yn gerth
O'u gwadnau gan mor gydnerth.
O'i wadn y dychleim Edna—Fesiwfiws
A'i ufel frydlifa
Yn afon i eigion, a
Chwai o olwg dymchwela.
Pair gwenwyn yn poeri o'i ganol—ffrwd
Ei ffreudardd hylifol;
A chan faint ei grychwyn fòl
Ysa 'n wynias enynol.
Er eiry oesol gororau Asia,
Copâu tàlgryfion minion Armenia,
Gyrdd—der rhew iasoer Gwyrdd—dir a Rwsia,
I'r eirias eu bwrir, a Siberia;
Yr holl ddaear alara―oblegyd
Goddeithio hefyd gudd waith Iehofa;
A! Mon deg ei mŵn dur—a'i phlwm wythen
Yn ulw domen o ludw ammhur.
Yr iâ fydd yn berwi fel—croch lynoedd,
Llwydrew y nefoedd oll dry yn ufel:
Rholian mewn awyr hylosg
Grugiau llym o geryg llosg;
O Eryri i waered,
I fol yr aig ufel red;
Ac i rwygaw y creigydd
Ebyr o fellt y wybr fydd;
A thros y boeth eirias bêl
Y llifa erchyll ufel;
O flaen hyrddwynt gorwynt gwrdd,
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/29
Prawfddarllenwyd y dudalen hon