Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elfenau olaf anian
Esyd Ior yn cirias dân,
A'u ffrau yn orgyffrowyllt
Gan y gwefr a'i egni gwyllt,
Dyry enfawr daranfyllt,
Y bel hon a'r cwbl a hyllt,
Ac o'i flaen i ffwrdd cyflawn ffy—fel llèn
Y ruddwawr wybren a'r ddaear obry.

Chwythir i'r entrych weithioedd
Seiri fel gwegi ar g 'oedd;
A thawdd pob gemwaith addien
A dulliau 'r byd oll ar ben;
Ynysoedd yn fflam esyd,
Nes toddi, berwi y byd,
Heb un ymwared yn bod,
Dyrysa daear isod;
Ei chrystyn osych rostia,
Tro'f yn ol gan y twrf wna;
Fath ryfedd gymysgedd mawr
Döa îrlen daearlawr!
O! ddaear fe 'th amharwyd,
Yn awr ai yr unrhyw wyd?

Fel yn y dull cyflawn daeth—eto'n lân
Duw Ior a'i pura 'n ol 'r un darpariaeth.

Y wir Eglwys ar greigle,
Dan wiw nawdd aden y ne',
Ei chanllaw sicr a'i chynllun,
Dolen aur i'w dàl yn un.

Yn dorf lân o'r tân a'r tonau—gwawriant
O gyraedd y rhuthrau,