Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A chefnant uwch eu hofnau
I fro eu Hion i'w fawrhau.

Yn ddyogel o dwrf rhyfel,
Ar y tawel le bar'towyd;
O bob llwythau, iaith, a pharthau,
Lliw eu gynau oll a gànwyd.

Gan fyrddiynau o fyrddiynau
Cofir angau y Cyfryngwr;
Yn y moliant llon gordeddant
Pêr awenant glod eu Prynwr.

Cânt bellach gyfrinach fry
Ar y bòr a wir bery;
Seiniant o haeddiant a hedd
Gref alaw mewn gorfoledd;
Ymuno 'n hoff mewn iawn hwyl
'N y ddinas newydd anwyl:
Eistedd maent o'r cystudd mawr—yn hardd lu,
Wedi eu cànu yn ngwaed eu Cynawr.

I neithior yr Oen aethant,
Moli 'n un yn ei deml wnant.

Y ddinas aur addien sydd
Agored ei thêr gaerydd;
Rhoed maen iaspis a grisial
I'w muriau teg, mawr eu tâl;
Ei dewisol dô asur,
A thŵr y portho aur pur:
Huliad ei glan heolydd