Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O law ei Saer yn loyw sydd;
O ethawl waith ei law Ef
Gwell addurn nis gall oddef.

O ddidrais gyraedd adref—moliana'r
Miliynau mewn tangnef;
Ugeinmil yn ei ganmawl "Ef"—yn un sydd
A'u haml awenydd yn nheml y wiwnef.

Ar y ddigoll erddygan,
Uno 'n gôr yn nèn y gân,
Yn ddiangol heb ôl bedd
Ar nenawr yr un anedd;
Iesu madws eu modur
Drefna un iaith berffaith bur;
Esgynant risiau gwiwnef
I gadw gwyl gydag Ef;
O fewn ei bau Ef ni bydd
Y geri'n sangu 'i gaerydd;
Ni chwynir o nych henaint,
O fewn hon ni finia haint:
Pla na chŵyn i'w blino chwaith,
Y dwymyn geidw ymaith,
A cheidw draw'r lucheden
O oror aneisor nèn.

Ni all ychwaneg un bai 'u llychwino,
Idd y bau lonydd ni ddaw i'w blino;
Yn eu tiriogaeth mae'r Oen yn trigo,
Haul a'i dywyniad na fachlud yno;
O'i flaen yn nefawl uno—yn eurgant
O'i gaffael byddant gyffelyb iddo.

Ar eu telynau aur tawel unant,
Yn Sabath yr Iesu byth arosant,

I gadw gwyl gydag Ef;
OfewneibauEfnibydd
Y geri'n sangu ' i gaerydd ;
Ni chwynir o nych henaint,
O fewn hon ni finia haint :
Pla na chŵyn i'w blino chwaith,
Y dwymyn geidw ymaith,
A cheidw draw'r lucheden
O oror aneisor nèn.
Ni all ychwaneg un bai 'u llychwino,
Idd y bau lonydd ni ddaw i'w blino ;
Yn eu tiriogaeth mae'r Oen yn trigo,
Haul a'i dywyniad na fachlud yno ;
O'i flaen yn nefawl uno-yn eurgant
O'i gaffael byddant gyffelyb iddo.
Ar eu telynau aur tawel unant,
Yn Sabath yr Iesu byth arosant,