Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

GYDWLADWYR,

WEDI canfod cyhoeddiad y testyn hwn, sef yr ADGYFODIAD, pa un a fwriedid yn destyn y Gadair yn Eisteddfod Freiniol Rhuddlan, ymgymerais a'r gorchwyl o gyfansoddi Awdl arno, a hyny o hoffder ato, a hyfrydwch calon, yn benaf, nid rhaib anniwall am arian. Nid wyf am amlygu fy ngwrthwynebiad y waith hon, o fod Pryddest yn fuddugol ar destyn Cadair unrhyw Eisteddfod, ond yn unig cyfeirio at y penderfyniad a wnaed gan bwyllgor o Feirdd yn Rhuddlan. Nid wyf ychwaith yn ymhoni yn fuddugwr, o herwydd wrth ystyried fy anfanteision a'm hoedran, a bod Prif-feirdd profedig Cymru yn gydymgeiswyr a mi, teg i mi yw rhoddi y maes iddynt. Ac er i un o'r beirniaid ddyweyd fod fy Awdl " yn sefyll yn uchel yn y feirniadaeth," &c., nid wyf yn pwyso ond ychydig ar hyny. Dymunaf ar i bwy bynag y dygwyddo i'r cyfansoddiad hwn ddod i'w ddwylaw, ac heb fod yn hoffi caethiaith o'r blaen, am iddo ymbwyllo, ac ymdrechu deall y cynghaneddion,