Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nes dêl yr awr (naws dawel wyrenig)
I nôl ei ddyweddi anwyl ddiddig,
A'i air i'w chyfodi 'n dderchafedig:
Yn Sion eglwyslon glau,
Yn anwyl caffer ninnau,
Yn gyflawn o'r ddawn bêr ddoeth,
Adeiniawg a di annoeth,
Newydd felyslon AWEN,
I wau emynau: AMEN.
—ELIWLOD:

Sef Dafydd Owen, y Gaer Wen, plwyf Llan Ystumdwy.

TESTYN Y FLWYDDYN 1804, yw

YNYS PRYDAIN, a'i hamddiffyniad rhag Estron Genedl.

Ymhlith syniadau eraill a weddant i'r Testyn, bydded cof moliannus am ein hen Wrolion Ardderchawg; megis

1. CASWALLAWN, a yrrodd ffo gwradwyddus ar IWL CAISAR a'i Rufeiniaid.

2. CARADAWG AP BRAN, (Caractacus) a ryfelawdd yn llwyddiannus yn erbyn Gwyr Rhufain, gan eu curaw yn dost mewn mwy na thrugain brwydr, yn yspaid naw mlynedd; efe a fradychwyd o'r