Bydded yr awdl ar rai o'r pedwar mesur ar hugain, nid ar y cwbl o honynt, goreuon y bernir Toddaid; Hir a Thoddaid; Byrr a Thoddaid; Gwawdodyn hir, Gwawdodyn byr; Cyrch a Chwtta; mesurad da hefyd yw'r Gyhydedd fer, a'r Gyhydedd naw-ban; a gellir ar bob un o'r rhai hynn,cynnal synwyr cadarn a gloyw, gyda chynghanedd; gellir hefyd, yn ol arfer yr hên Feirdd, rhagarwain yr awdl a gosteg o bump neu chwech englyn. Gobeithiwn fod oes folinebau y coegorchestion wedi myned heibio yn llwyr, a chaned bawb—
Dos yn iach bellach o'r byd,
A chilia heb ddychwelyd.
Barn y Gwyneddigion yw mae Caernarfon yw'r lle mwyaf cyfleus yng Ngwynedd i gynnal yr Eisteddfod, ddydd gwyl Mihangel, 1804.
Y GWYNEDDIGION.
Thomas Roberts, Trysorydd y Gymdeithas, No. 9, Poultry, London.
DIWEDD.