Trymaf trethiad, breuddwyd irad, briddo dewrwas
Yn Virginia, llin hen Droia, 'n Llan Andreas.
Budd na chyfoeth na bedd ni chafodd
O'r eiddo Môn, er à ddymunodd:
A Duw er hynny da y rhanodd;
A f'ai oreu iddo ef rhoddodd:
Duw eilwaith a'i didoloddo'r byd trwch;—
Ei Nafi degwch nef a'i dygodd.
Yn iach! anwyl wych ynad,oedd ddichlyn
I'w ddwy uchel alwad;
Ffuraf fardd ac offeiriad;—
A throm och am athraw mâd!
Pregeth ryfedd o'i ethryb
I'n ochlyd ein uchel dyb.
Daiarwyd ei orwedd,
Lle yr awn oll yr un wedd.
Pa fodd in? pwy á fydd iach,
A'i dyfiad o waed afiach?
Un dawn rhag angau nid oes;—
Ei ran yw dwyn yr einioes.
Daiar i ddaiar ydd â;—
Ond awen; hi flodeua.
Er rhoi yn isel wir hanesydd,
Dewin dwnad, tyf dawn dywenydd
Yn egin o'i weryd gain irwydd;
Blodau'r iaith yw ei waith, wiw ieithydd;
Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/7
Prawfddarllenwyd y dudalen hon