Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CERDD
CWYNFAN Y MORWR.
O! bachgen wyf o Gymru bach,
Yn mhell o'm gwlad yn byw,
Ac wedi colli'm llong a'm llwyth
A boddi wnaeth fy Nghriw.
Fy anwyl gapten 'nhad oedd hwn
Mae'n drwm i'm ddweud i chwi
Sydd wedi myn'd i'r eigion dwfn,
Y llanw mawr a'r lli'.
Yn wlyb, yn wan ce's inau'r lan,
Er saled yw fy ngwedd:-
A rhyw rai duon drwg eu lliw
Yn myn'd i'm rhoi'n y bedd.
Ar lan y mor, yn wlyb, yn wan,
Yn cwyno'r ydwyf fi,
Heb neb o'r duon drwg eu lliw,
Yn cwyno dim i mi.