Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun
Mor drwm yw arnaf fi,—
Ol wedi colli'm llong a'm llwyth.
A'i hanwyl briod hi.
O! bachgen wedi colli 'nhad
Yn mhell o'm gwlad yn byw:
Wrth feddwl am fy anwyl fam,
'Rwy'n marw ac eto'n fyw.
'Rwy'n fachgen ifane 'ran fy oed,
Ni wyr fy nhroed p'le i droi,
A'm pen yn rhydd, a'm calon brudd,—
'Rwyf heno wedi'm cloi.
Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun
P'le'r wyf y noswaith hon,
Fe fyddai'i chalon bach yn brudd,
A briw o dan ei bron.
'Rwy'n meddwl am fy anwyl fam
Bu'm ar ei deulin hi, op i GA
Yn sugno llaeth o'i banwyl fron
Mor anwyl oeddwn i.
Er hyn i gyd, 'rwyf yma'm hun,
Yn wael fy llun a'm lliw;
Heb fedru deall faith y wlad,.
Wedi colli'm tad a'm Criw,
Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun Y
Mor drwm yw arnaf fi,
Ni fedra'i lai pa meddwl hyn,
Fe ddrysai'i synwyr hi
Er hyn i gyd, 'rwy' eto'n fyw
Trugaredd Duw, rwy'n fach: A
'S ca'i long i fyn'd i Loegr dir,
'Dai byth a Gymru bach. dondoH
Cytir.THOMAS OWEN.
Tudalen:Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach.djvu/2
Prawfddarllenwyd y dudalen hon