Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,
Moliant wiwdôn


17. Cyhydedd fer.

Mwyn ein gweled mewn un galon,
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion,
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion,
Cu mor unfryd Cymru wenfron.


18. Cyhydedd hir.

Amlhawn ddawn, ddynion, i'n mad henwlad hon
E ddaw i feirddion ddeufwy urddas
Awen gymhen, gu, hydr mydr o'i medru,
Da ini garu doniau gwiwras.


19. Cyhydedd Nawban.

Bardd a fyddaf, ebrwydd, ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw a'm dethol,
O fry i'n heniaith, wiw, frenhinol,
Iawn, iaith geinmyg, yw ini'th ganmol.


20. Clogyrnach.

Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A'i theg eiriau, iaith gywiraf;
Iaith araith eirioes, wrol, fanol foes,
Er f'einioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a Chwta.

Neud esgud[1] un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynil[2] ond a'i cano,
Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith; nid da'r wedd,
Nid rhinwedd ond ar hono.


  1. Cyflym.
  2. Cynil yr hen ystyr oedd medrus.