Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRI ENGLYN MILWR.

Yn ol yr hen ddull.

Aм ai prydawdd o dawr pwy
Sef ai prydes Goronwy
Neud nid llith na llesg facwy.[1]

Ys oedd mygr iaith gysefin
Prydais malpai mydr merddin
Se[2] nym lle llawdd nym gwerin.

Neu nym doddyw[3] gnif¹ erfawr
Gnif llei no lludded echdawr
Am dyffo [4]clod gnif[5] nym dawr.


CYWYDD
AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD LLWYDLO,
Cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.[6]
[Am y gwreiddiol (Lladin) gweler tudal. 115; gweler hefyd LLYTHYRAU, tudal. 123, 126.]

MOES erddigan[7] a chanu;
Dwg in' gerdd dêg, awen gu;
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.

Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd:
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;

  1. Gwas.
  2. Felly
  3. Ni ddaeth imi
  4. Delo
  5. Gofid
  6. Canghen o deulu clodfawr yr Herbertiaid ydyw Ieirll Powys.
  7. Cynghanedd gerddorol.