Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A deled, Duw a iolaf,![1]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch[2]
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen!
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau,
Fardd dwyiaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen[3]
Hyfryd, tra rheto Hafren
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


PSALM CVII.

Dyledswydd a Doethineb Dyn yw ymfoddloni i ewyllys ei Greawdwr.[4]

Through all the various shifting scene
Of life's mistaken ill or good,
The hand of God conducts unseen,
The beautiful vicissitude, etc., etc.,

TRWY droiau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Dduw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadawl ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur
Ond da'i gymhesur fantol?


  1. Gweddiaf.
  2. Ger y Trallwng, ac a elwir yn awr Powis Castle.
  3. Rhenid Cymru gynt yn dair talaith-Gwynedd, Powys, a Deheubarth.
  4. Cyfieithiad o Saesneg Dr. SAMUEL COLLETT.