Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyff cler[1] a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i foddlonrwydd.

Fe weryd wirion yn y frawd,[2]
Rhag ynllib tafawd atcas:
Fe rydd orphwysfa i alltud blin,
Mewn annghynefin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y penau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.

Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.


  1. Testyn dirmyg.
  2. Yn y farn.