Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon[1] a mi :
Neu ddeuwr awen ddiell,[2]
I ganu gwawd[3] ugain gwell,
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.

Brodir gnawd ynddi brydydd:
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[4]
Mae Gwalchmai[5] erfai eurfawr?
P'le mae Einion[6] o Fon Fawr?
Mae Hywel[7] ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,[8]
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[9]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[10] yn bygylu?

  1. Lewys Morys.
  2. Diwall.
  3. Yr ystyr a roddid i'r gair gwawd hyd yn ddiweddar ydoedd mawl, clod.
    Medd yr Archddiacon Prys:—
    Parod yw fy nghalon, O Dduw,
    O parod yw fy nghalon;
    Canaf it' a datganaf wawd
    O fawl fy nhafawd ffyddlon
  4. Meilir ab Gwalchmai.
  5. Gwalchmai ab Meilir.
  6. Einion ab Gwalchmai.
  7. Hywel ap Owen Gwynedd.
  8. Tywysog Cymru.
  9. Madog Benfras.
  10. Dafydd ap Gwilym