Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith:
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.
"Bellach f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid!
Gwiw ganaid dŷ gogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghôr Sant:
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy:
Cyduned a llefed llu
Monwysion, "Amen, Iesu!"
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/115
Prawfddarllenwyd y dudalen hon