Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawredd gwlad Wynedd, glod union,—ceinwalch,
Cynnor[1] presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.

Cyd b'ai hirfaith taith o'r wlad hon—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.

Mae tonau dagrau digron[2]—i'm hwyneb,
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.[3]

Bro coedydd, gelltydd gwylltion,—pau[4] prifwigs[5]
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl[6] llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!

Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im' dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon!

Galar ac afar gofion—mynych y'nt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.


Cywydd Llosgyrnog ac Awdl-gywydd yn nghyd

Ni fu'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewis Morys;
Ond erys yn oed ŵyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.


  1. [Penaeth.]
  2. [O'r gair cronni.]
  3. Virginia yn America, lle mae'r Awdwr yn drigianol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain, yn y flwyddyn 1757.
  4. [Gwlad]
  5. [Forest.]
  6. [Hiliogaeth]